Datganiad i'r cyfryngau ar gyfer y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit

 

Cyfarfu'r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit yng Nghaerdydd heddiw, gan nodi blwyddyn ers ei gyfarfod cyntaf.

Yn y cyfarfod, cytunodd y Fforwm i ysgrifennu at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, gyda chopi at Weinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban, i fynegi ei farn ynghylch strwythurau rhynglywodraethol cyfredol y DU, ac wrth wneud hynny, ailadrodd ei farn a ganlyn:

“[…]the consensus view of committees is that the Joint Ministerial Committee (JMC) mechanism is not fit for purpose.”

Daeth y Fforwm i'r casgliad hefyd y bydd angen mecanweithiau rhynglywodraethol a rhyngseneddol mwy effeithiol i edrych ar rannu pwerau yn y dyfodol er mwyn sicrhau polisïau y DU gyfan mewn meysydd y mae fframweithiau'r Undeb Ewropeaidd yn eu llywodraethu ar hyn o bryd.

Cyfarfu uwch wleidyddion, yn cynrychioli'r pwyllgorau sy'n arwain ar graffu ar Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, i asesu sefyllfa'r trafodaethau Brexit ac ystyried sut y mae llywodraethau a deddfwrfeydd y DU yn cydweithio er budd y dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu.

Roedd swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol fel sylwedyddion.

Cyfarfu'r Fforwm ar adeg hollbwysig yn y broses Brexit, gyda'r dyddiad cau disgwyliedig ar gyfer cwblhau cytundeb ymadael wedi'i ymestyn yn ddiweddar i ganiatáu amser i ddod o hyd i ateb i faterion y mae angen ymdrin â nhw o hyd.

Hwn oedd pumed cyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol ac roedd ei drafodaethau'n adlewyrchu'r materion y trafododd yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan gynnwys:

-        hynt y trafodaethau Erthygl 50;

-        gwaith craffu Ewropeaidd yn ystod y cyfnod pontio/gweithredu;

-        cysylltiadau rhyngsefydliadol;

-        craffu ar fframweithiau polisi cyffredin y DU; a

-        deddfwriaeth y Cytundeb Ymadael.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Ionawr 2019, lle bydd yn trafod camau olaf y broses Brexit.

Yr aelodau a oedd yn bresennol

Tŷ’r Cyffredin

Syr Bernard Jenkin AS, Cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddu Cyhoeddus a'r Cyfansoddiad

Hywel Williams AS, Aelod o Bwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Anna McMorrin AS, Aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig

Tŷ’r Arglwyddi

Yr Arglwydd McFall o Alcluith, Uwch-ddirprwy Lefarydd

Yr Arglwydd Boswell o Aynho, Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr UE

Yr Arglwydd Wallace o Tankerness, Aelod o'r Pwyllgor Cyfansoddiad

Yr Arglwydd Thomas o Gresffordd, Aelod o'r Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddiol

Yr Arglwydd Kirkwood o Kirkhope, Aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Elin Jones AC, y Llywydd

Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Oherwydd nad yw Cynulliad Gogledd Iwerddon yn eistedd ar hyn o bryd, mae swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedyddion.

Senedd yr Alban

Bruce Crawford MSP, Cynullydd y Pwyllgor Cyllid a’r Cyfansoddiad

Adam Tomkins MSP, Dirprwy Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a'r Cyfansoddiad

Graham Simpson MSP, Cynullydd y Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith